Gweno Penygelli
GWENNO PENYGELLI

Rwy'n ddeg-ar-hugain oed
Ac arna'i chwant priodi
Geneth ysgafn droed
Fel Gwenno Penygelli
Mae ganddi ddillad crand
Ac mae hi'n eneth bropor
A decpunt yn y banc
Ar ôl ei Modryb Gaenor.

Mae gen I het Jim Cro
Yn barod i fy siwrne
A sgidie o groen llo
A gwisg o frethyn cartre
Mae gen i dy yn llawn
Yn barod i'w chroesawu
A phedair tas o fawn
A dillad ar fy ngwely.

Mae gen i ddafad ddu
Yn pori ar Eryri
Hwyaden, cath a chi
A gwarthcg lond y beudy
Mi fedraf dasu a thoi
A chanu, a dal yr arad'
A gweithio heb ymdroi
A thorri gwrych yn wastad.


Roedd yno bwdin pys
A hwnnw ar hanner ferwi
Y cwc wedi torri'i bys
A cholli'r cadach llestri
Cig y myharen du
Yn wydyn yn ei gymale
Y potes maip yn gry'
A chloben o baste fale.

Traddodiadol.