Coed Glyn Cynon (The Woods of Cynon Valley)
COED GLYN CYNON

Aberdâr, Llanwynno i gyd
Plwyf Merthyr hyd Llanfabon
Mwyaf adfyd a fu erioed
Pan dorred Coed Glyn Cynon.

Torri llawer parlwr pur
Lle cyrchfa gwyr a meibion
Yn oes dyddiau seren syw
Mor araul yw Glyn Cynon.

A daw gofyn pwy a wnaeth
Hyn o arfaeth creulon
Dyn a fu gynt yn cadw oed
Dan fforest Coed Glyn Cynon.

Gwell y dylsai'r holl Saeson fod
Yn sgubo neuaddau'r tacogion
Cadwyn ddur i'w cadw dan glo
Rhag rheibio prydferthwch GlynCynon.

Anhysbys 16eg ganrif.