| Dim Ond Yr Awel Sy'n Rhydd (Only Our Rivers) | |
|
DIM OND YR AWEL SY'N RHYDD Pan ddeilia y dderwen yn Ionawr Pan haf yn y gaeaf a fydd Pan fydd hi'n doreithiog mewn hirlwm Bydd 'y ngwlad a 'mbobol yn rhydd Aros mae'r eira ar Garneddi O'r corsydd cwyd tarth yn brudd Yn y wlad na wyr arn ei rhyddid Dim ond yr awel sy'n rhydd. O henffych i'r dewrion colledig Y gwyr a fu'n darian i'w rhaid Na fedrai ddygymod â gormes A safodd, a syrthiodd o'i phlaid; Ond lle'r aeth eu hysbryd mewn adfyd? Mae ildio yn ennill y dydd Pa ryfedd, heb fêr yn ein hesgyrn Mai dim ond yr awel sy'n rhydd? Palmantwyd y briffordd i r estron A ni sy'n ei lledu o hyd Agorwyd y drws i'r anifail Y ni aeth a'r blaidd at y crud; Am bris y ni ddaru werthu Holl eiddo'r cenedlaethau a fydd Ac y ni sy'n holi mor dawel Pam mai dimond yr awel sy'n rhydd. Pa les sydd mewn nerth os yw'n segur A dwylo heb 'wyllys i wneud A llygad sy'n agor heb weled A thafod heb ddim i'w ddweud? Pa fodd mae byw heb dim bywyd A sut mae breuddwydio heb ffydd? Mae gennym ein rhyddid, er hynny Dim ond yr awel syn rhydd. Myrddin ap Dafydd. |
|