| Mari Fach | |
|
MARI FACH Lan y cwm mae merch or enw Mari Sy' mor bert mae pob dyn yn ei charu Byw mewn gobaith wyf ei bod hi'n sylwi 'Mod i'n dwli ar y ferch sy lan y cwm Mae ei gwallt fel sidan dros ei chefn Du fel y frân ar hyd ei hysgwydd lefn Gruddiau'r rhos a llygaid fel dwy em Mari fach, y bertaf yn y cwm. O na chawn gofleidio gyda hi Sibrwd geiriau cariad ger y lli Breuddwyd yw ei chusan ber imi Mari fach y bertaf yn y cwm. Bob nos Wener âf am dro i'r neuadd Fi yw'r cynta bron bob tro i gyrra'dd Chwilio rwyf am unrhyw un sy' gytradd A Mari fach, y bertaf yn y cwm. Ond bob tro daw'n amser mynd tua thre' Siwrnai wast oedd cerdded lawr i'r dre Does neb fyth I'w chanfod yn y lle Fel Mari fach, y bertaf yn y cwm. Ond rhyw ddydd fe ddaw o rywle hyder Codi wnaf a chroesi draw i'w chyfer, Gofyn dawns a gwybod yn ddi-bryder Taw cusan gaf 'da'r bertaf yn y cwm. Ond tan hynny, poeni wnaf bob dydd Na chaf hon i godi 'nghalon brudd Gan fy nghalon oll yn eiddo sydd I Mari fach, y bertaf yn y cwm. Keri Morgan. |
|