| Lisa Lân (Fair Lisa) | |
|
Lisa Lân Bûm yn dy garu lawer gwaith Do lawer awr mewn mwynder maith Bum yn dy gusanu Lisa gêl Yr oedd dy gwmni'n well na'r mêl. Fy nghangen lân, fy nghowlad glyd Tydi yw'r lanaf yn y byd Tydi sy'n peri poen a chri A thi sy'n dwyn fy mywyd i. Pan fyddwy'n rhodio gyda'r dydd Fy nghalon fach sy'n mynd yn brudd Wrth glywed swn yr adar mân Daw hiraeth mawr am Lisa Lân. Pan fyddwy'n rhodio gyda'r hwyr Fy nghalon fach a dôdd fel cwyr Wrth glywed swn yr adar mân Daw hiraeth mawr am Lisa lân. Lisa, a ddoi di i'm danfon i I roi fy ngorff mewn daear ddu? Gobeithio ddoi di, f'annwyl ffrind Hyd lan y bedd, lle'r wyf yn mynd. |
|