Pant Corlan yr Wyn (Let Now the Harp)
Pant Corlan yr Wyn
(Let Now The Harp)
Mehefin ddaeth, fugeiliaid mwyn
Ein defaid hwnt ynt heb eu hwyn
Yn ffoi'n lluddedig dan y twyn
I lyn neu frwyn am loches.
Y gwlanog gnwd i'r wyn a fu
Yn wenwisg deg drwy'r gaeaf du
Dymunant nawr i'r blaidd neu'r ci
Ei gwisgo yn eu lle, neu ni
O'u pwysig gnwd i feddu'r cnu
Sy'n llethu rhai rhy gynnes.
O'r weirglodd gul, a'r darren lom
Yr oenig drown, a'r ddafad drom
Yn siw cânt fynd, er maint y siom
Lle gwelom nesaf geulan
Dan honno, heb wneud iddi gam
Mor wyn â'r oen, ni wnawn ei fam
Ac wedi'i channu, heb ddweud pam
Ei gwisg a gneifiwn, ac heb nam
Am ei gwiriondeb â ar lam
Ei dinam ryddid yngan.