| Y Graith (The Scar) | |
|
Y GRAITH Mae'r golau 'di diffodd ac mae'r drws wedi cau Mae'r cap ar y bachyn, a'r nos yn amgau Yn ymladd yr anochel mae fflam ola'r tân Does ond awel fach dyner yn sibrwd ei chân. Mae'n adrodd ei stori am ddyddiau sy'n hen Am wr ifanc heinl a'i wyneb yn wen Yn croesawu pob diwrnod a'i gap fflat ar dro A'i fwgyn mewn cornel fel meistir y fro. Ond mae'r glwyd wedi'i chloi Ac mae'r sbêc wedi mynd A does iddo mwyach Ond atgof am ffrind Dim weindar, dim helmet Dim picas, dim bar Dim ond creithiau ar dalcen A thrymder ei war. Lawr yng nghrombii y ddaear gwariai'r dydd ar ei fol Gyda'r dwr, gwres a'r llygod, yn ceibio'n ddi-lol Ond pan seiniai yr hwter 'deuai lan wrth y ffâs Yn taranu'r ffefrynnau 'da'i lais canu bâs. Mae ei gap ar y bachyn, mae'i wefus yn wyn Mae'i gefn wedi crymu, aeth ei fegin yn dynn A thra diffydd pob colsyn ar warged o dân Tawelodd yr awel, gorffennodd y gân. Mae'r glwyd wedi'i chloi Mae'r sbec wedi mynd Daeth amser i glocio'r Shift ola 'rhen ffrind Ac wrth ddringo fy ngrisie Daw'r atgof ion yn llu Am wen a chraith colier 'Ranwyliaid a fu. Keri Morgan. |
|