Dim Ond Yr Awel Sy'n Rhydd (Only Our Rivers)
DIM OND YR AWEL SY'N RHYDD

Pan ddeilia y dderwen yn Ionawr
Pan haf yn y gaeaf a fydd
Pan fydd hi'n doreithiog mewn hirlwm
Bydd 'y ngwlad a 'mbobol yn rhydd
Aros mae'r eira ar Garneddi
O'r corsydd cwyd tarth yn brudd
Yn y wlad na wyr arn ei rhyddid
Dim ond yr awel sy'n rhydd.

O henffych i'r dewrion colledig
Y gwyr a fu'n darian i'w rhaid
Na fedrai ddygymod â gormes
A safodd, a syrthiodd o'i phlaid;
Ond lle'r aeth eu hysbryd mewn adfyd?
Mae ildio yn ennill y dydd
Pa ryfedd, heb fêr yn ein hesgyrn
Mai dim ond yr awel sy'n rhydd?

Palmantwyd y briffordd i r estron
A ni sy'n ei lledu o hyd
Agorwyd y drws i'r anifail
Y ni aeth a'r blaidd at y crud;
Am bris y ni ddaru werthu
Holl eiddo'r cenedlaethau a fydd
Ac y ni sy'n holi mor dawel
Pam mai dimond yr awel sy'n rhydd.

Pa les sydd mewn nerth os yw'n segur
A dwylo heb 'wyllys i wneud
A llygad sy'n agor heb weled
A thafod heb ddim i'w ddweud?
Pa fodd mae byw heb dim bywyd
A sut mae breuddwydio heb ffydd?
Mae gennym ein rhyddid, er hynny
Dim ond yr awel syn rhydd.

Myrddin ap Dafydd.