| Pan O'wn i'n Rhodio (When I Was Roaming) | |
|
Pan O'wn i'n Rhodio Pan o'wn i'n rhodio ac yn gwrando Ar fab a'i gariad mewn un man, Clywn y ferch yn d'wedyd wrtho, Byth nis deuaf i dy ran; Ni thal it' siarad dim am gariad, Gwybod wyf nid wyt ond ffol, Tra dwr yn cerdded gyda'r gwaered Byth nis deuaf ar dy ol. O f'anwylyd, fywiol fywyd, Gwell na golud yw dy gael, Am hynny'r seren sy'n dosturia Gwel mor waeled wyf o dy flaen; 'Mlaen y deuaf, pall nis cym'raf, Genny ti, 'run lawen lwys, O rhag trueni na a+d 'mi boeni Ond cynwys le i mi roddi'm mhwys. |
|